Siediau Dynion
Mae’r grwpiau Siediau Dynion yn tarddu o Awstralia a’u nod yw mynd i’r afael ag unigrwydd ac unigedd ymysg dynion hŷn. Ers hynny mae’r symudiad wedi lledaenu i ardaloedd o amgylch y byd, gan gynnwys yma yng Nghymru. Mae Sied Dynion yn lle i ddynion feddwl, dyfeisio a gwneud pethau, a bod yn rhan o grŵp unigryw sy’n creu ymdeimlad o berthyn.
Mae’r gweithgareddau sy’n cael eu cynnal yn y siediau – megis gwaith coed, gwersi cerddoriaeth, gwersi coginio, garddio, gwneud modelau a chelf – yn dibynnu ar ddiddordebau a sgiliau’r grŵp.
Yn lleol, mae grŵp ymarferol Sied Dynion ym Maesteg a gweithdy Squirrel’s Nest yn Nhon-du, a’r gobaith yw y bydd rhagor o grwpiau yn cael eu sefydlu yn fuan.
Am ragor o wybodaeth am y grwpiau hyn, galwch heibio neu gysylltu â nhw gan ddefnyddio’r wybodaeth isod:
Squirrel’s Nest
Uned 40, Canolfan Menter Ton-du, Bryn Road, Ton-du, CF38 9BS.
Shed Quarters – grŵp ymarferol i ddynion
The Court House, 4 Station Street, Maesteg, CF34 9AL. Dydd Iau 11.30am – 1.30pm, darperir cinio (rhodd o £2). www.shedquarters.wales
I chwilio am grwpiau yng Nghymru, neu am gyngor ar sefydlu grŵp Sied Dynion newydd, ewch i www.mensshedscymru.co.uk