Eich cymuned
Mae’n bwysig bod cymunedau lleol yn ‘gyfeillgar i oed’ ac yn hyrwyddo Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fel lle i bobl hŷn fyw bywydau llawnach ac yn ardal wedi’i chynllunio i ddiwallu eu hanghenion. Mewn cymuned gyfeillgar i oed, fe welir pobl yn annog ac yn galluogi pobl hŷn i ymwneud â’u hamgylchedd a pharhau i gymryd rhan gymdeithasol yn eu cymunedau, gan helpu pobl i gynnal eu hiechyd, eu hannibyniaeth a’u lles.
Gyda disgwyliad oes yn cynyddu a phobl yn byw yn hirach, mae cefnogi cymdeithas sy’n heneiddio yn bwysicach nag erioed. Dylai cymunedau aml-genhedlaeth ddod yn norm, gan sicrhau bod lleisiau pobl o bob oed yn cael eu clywed a’u bod yn aelodau gwerthfawr o’r gymuned.
Gall pob un ohonom gyfrannu at wneud Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn lle gwych i fynd yn hŷn i bawb drwy fod yn ofalgar ac yn wyliadwrus. Mae gan bob un ohonom ryw fath o gysylltiad â phobl leol eraill, p’un ai a ydym yn gymdogion, yn ffrindiau, yn deulu neu’n weithwyr yn y gymuned.
Mae cael pobl o bob oedran yn weithgar ac yn brysur o gwmpas y lle yn sicrhau cymdeithas gyfoethocach ac yn creu cymunedau iach a hapus.