Sicrhau corff a meddwl iach
Drwy ofalu amdanom ein hunain yn dda, efallai y bydd modd i ni leihau ein risg o ddioddef cyflyrau iechyd sy’n gysylltiedig ag oedran a gwella ansawdd ein bywyd yn gyffredinol. Mae’r ‘Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn yng Nghymru 2013-2023‘ yn cydnabod y nifer cynyddol o bobl y mae dementia yn effeithio arnynt a pha mor bwysig yw adnabod yr arwyddion a chael cefnogaeth yn gynnar. Mae gofalu am ein lles ein hunain yn bwysig iawn, yn enwedig wrth i ni fynd yn hŷn.
Fe welwch isod rai awgrymiadau ar sut mae cadw’r corff a’r meddwl yn iach:
- Mae llawer o adroddiadau’n nodi bod cysgu’n dda yn llesol i’r cof ac iechyd a lles yn gyffredinol. Dylech geisio cysgu o leiaf 8 awr bob nos. Sefydlwch batrwm cysgu rheolaidd ac ymlacio cyn amser gwely drwy ddarllen, cael bath poeth neu bylu’r goleuadau. Nid yw’n syniad da gwylio’r teledu na defnyddio cyfrifiadur / dyfais yn union cyn mynd i’r gwely gan fod y rhain yn bethau ysgogol a allai ei gwneud yn anodd i chi syrthio i gysgu.
- Gall bwyta deiet iach ac ymarfer yn rheolaidd leihau’r risg o ddementia, strôc, diabetes a llawer o gyflyrau eraill.
- Dylech gael profion megis pwysedd gwaed a cholesterol yn rheolaidd er mwyn helpu i ddod o hyd i unrhyw broblemau sy’n gallu cyfrannu at gyflyrau iechyd.
- Dylech fod yn egnïol a chyfuno gweithgareddau corfforol, cymdeithasol a meddyliol. Mae arbenigwyr yn awgrymu y bydd hyn yn helpu i leihau eich risg o ddatblygu cyflyrau iechyd ac fe fyddwch yn mwynhau eich bywyd yn well o ganlyniad, gobeithio!
- Sicrhau rhwydwaith cryf o ffrindiau – gall parhau yn weithgar yn gymdeithasol helpu i’ch amddiffyn rhag Alzheimer a dementia.
- Defnyddio’r ymennydd neu ei golli – credir bod y rheini sy’n dal i ddysgu pethau newydd drwy gydol eu bywydau ac yn herio eu hymennydd yn llai tebygol o ddatblygu dementia. Mae tasgau lluosog neu dasgau sy’n golygu cyfathrebu, rhyngweithio a threfnu yn ysgogi eich ymennydd. Dysgwch rywbeth newydd fel astudio iaith dramor, chwarae offeryn cerdd, darllen llyfr, neu ymgymryd â hobi newydd. Dylech ymarfer cofio, megis prifddinasoedd neu wledydd. Mwynhewch chwarae gemau a gwneud posau – gall y rhain fod yn ffordd wych o wneud i’r meddwl weithio. Gwnewch gyfrinair, chwarae gemau bwrdd, cardiau, neu gemau geiriau a rhifau megis Scrabble neu Sudoku.
Am ragor o wybodaeth am leihau’r risg o ddementia, symptomau dementia a byw gyda dementia ewch i www.alzheimers.org.uk