Cyfleusterau hamdden
Mae Halo Leisure yn rhedeg nifer o ganolfannau hamdden ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gan ddarparu gweithgareddau a grwpiau addas i bobl o bob oed.
Menter Nofio am Ddim i bobl dros 60 oed
Fel rhan o Fenter Nofio am Ddim Llywodraeth Cymru, caiff pobl dros 60 nofio am ddim mewn unrhyw sesiwn gyhoeddus. Ar ben hynny, gall dechreuwyr gael gwersi nofio am ddim. Caiff gweithgareddau eu cynnal mewn amrywiol leoliadau ledled y fwrdeistref sirol. Cysylltwch â’ch Canolfan Hamdden Halo am ragor o wybodaeth www.haloleisure.org.uk
Cyfleusterau Canolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr
Os ydych chi’n chwilio am rywbeth gwahanol i sesiynau ac ymarferion confensiynol yn y gampfa, mae gan Ganolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr gyfleusterau addas i bobl o bob gallu.
Ystafell Tynhau
Rhowch ymarfer i’r corff i gyd heb ymdrech lafurus yn yr Ystafell Tynhau. Mewn amgylchedd ymlaciol tebyg i sba, mae cylched 30 munud yn cynnig sesiwn sy’n gwneud i’r holl brif grwpiau cyhyrau ymarfer, ond gydag offer a chanddynt gymorth pŵer, felly rydych chi’n gweithio gyda’r peiriannau yn lle yn eu herbyn.
Byddwch yn cael sesiwn ymarfer heb straen gyda’r ffordd ymlaciol, effaith isel hon i gadw’n heini. Mae’r offer yn cynnig math o ymarfer addas i bawb, waeth beth yw eu hoedran, symudedd, pwysau neu lefel eu ffitrwydd, ac maent yn addas i bobl sy’n dechrau ymarfer corff eto ar ôl cyfnodau o fod yn segur, gan gynnwys y rheini sydd â phroblemau iechyd.
Dyma rai manteision defnyddio’r Ystafell Tynhau:
- Gwella ffitrwydd cyffredinol
- Tynhau’r cyhyrau
- Helpu i sicrhau osgo da
- Cylchrediad gwell
Dosbarthiadau Ffitrwydd a Hydro-gampfa
Mae dosbarthiadau Ffitrwydd Aqua yn cynnig sesiynau hygyrch sy’n cael eu cynnal yn y pwll. Mae’r dŵr yn cefnogi eich cymalau wrth i chi weithio, gan roi llai o effaith ar y corff na sesiynau ymarfer yn y stiwdio ffitrwydd.
Mae gan yr Hydro-gampfa beiriannau ymarfer yn y dŵr sy’n helpu i gryfhau a thynhau cyhyrau heb roi straen effaith uchel ar gyhyrau a chymalau. Mae Halo yn cynnig mynediad am ddim i’r Hydro-gampfa i bobl dros 60 oed yn ystod sesiynau cyhoeddus.
Canolfannau lleol
Fe welwch isod restr o Ganolfannau Hamdden Halo ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a’u manylion cyswllt.
Canolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF41 4AH • 01656 678890
Canolfan Bywyd y Cwm Garw, Old Station Yard, Pontycymer, CF32 8ES • 01656 678881
Pwll Nofio Maesteg, Alfred Street, Maesteg, CF34 9YW • 01656 678882
Canolfan Chwaraeon Maesteg, Old Forge Site, Nant-y-Crynwyd, CF34 9EB • 01656 678844
Canolfan Bywyd Cwm Ogwr, Aber Rd, Cwm Ogwr, CF32 7AJ • 01656 678845
Pwll Nofio Pencoed, Felindre Road, Pencoed, CF35 5PB • 01656 678883
Pwll Nofio’r Pîl, Marshfield Avenue, Y Pîl, CF33 6RP • 01656 678884
Pwll nofio a chanolfan ffitrwydd Ynysawdre, Heol yr ysgol, Ton-du, CF32 9ET • 01656 678895