Cyflogaeth a dysgu
Nid yw pawb yn barod i ymddeol pan fyddant yn cyrraedd oed pensiwn, ac nid oes ‘oedran ymddeol diofyn’ erbyn hyn, felly gallwch weithio am ba mor hir bynnag sy’n addas i chi. Bydd rhai pobl yn dewis parhau i weithio er mwyn manteisio i’r eithaf ar eu cyfle i gynyddu eu hincwm a pharhau i gael rôl yn eu cymunedau. Bydd rhai yn dewis gwirfoddoli er mwyn cael parhau’n brysur a chyfrannu at gymdeithas, gan roi ymdeimlad o bwrpas iddynt o hyd ar ôl ymddeol.
Pa ffordd bynnag mae pobl hŷn yn dewis treulio eu hamser, boed hynny’n mwynhau cael amser rhydd ar ôl ymddeol i ddilyn diddordebau a dysgu sgiliau newydd, parhau i weithio neu wirfoddoli, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr eisiau sicrhau bod y dewisiadau hyn ar gael yn rhwydd i bawb.
Gyda mwy a mwy o wasanaethau’n symud ar-lein, gall allgáu digidol fod yn broblem i rai pobl hŷn. Mae gan lyfrgelloedd a Dysgu Oedolion yn y Gymuned gyrsiau a all helpu’r rheini sy’n teimlo bod angen hyfforddiant arnynt i ddeall technoleg yn well, ac mae amrywiaeth o sefydliadau eraill ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sy’n darparu hyfforddiant ar gyfer ystod eang o setiau o sgiliau.
Gallwch hefyd gael cyngor yn lleol ar fanteisio i’r eithaf ar yr arian sydd gan bobl i gynnal eu lles.