Cymdeithasu
Gall unigrwydd ac unigedd fod yn niweidiol i iechyd a lles ac maent yn cael eu cydnabod fel problemau iechyd a diogelwch y cyhoedd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Ffeithiau
- Mae unigrwydd yn cael effaith niweidiol ar iechyd meddwl, clefyd cardiofasgwlaidd, pwysedd gwaed uchel a dementia.
- Mae arolwg cenedlaethol Age UK yn nodi bod 39% o bobl dros 65 oed yn teimlo’n unig a bod un person o bob pump yn teimlo bod pawb wedi anghofio amdanynt o ganlyniad. Mae gallu siarad â phobl a theimlo’n rhan o’u bywydau yn hynod o bwysig. Mae unigrwydd ac unigedd wedi cael eu disgrifio fel ‘lladdwyr tawel’ ac mae dros 75% o ferched ac un rhan o dair o ddynion 65 oed a hŷn yn byw ar eu pen eu hunain.
- Mae’r ‘Ymgyrch i Roi Terfyn ar Unigrwydd’ yn nodi mai dynion hŷn yng Nghymru yw’r grŵp o bobl fwyaf unig yn y DU ac mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi nodi nifer cynyddol o bobl sy’n nodi eu bod yn teimlo wedi’u hynysu’n gymdeithasol yn aml.
Os ydych chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod mewn sefyllfa lle maent eisoes yn teimlo’n unig neu mae eu hamgylchiadau wedi newid, megis colli cydymaith, symud ardal neu wedi colli’r gallu i gymdeithasu yn sgil problemau iechyd, mae amrywiaeth o sefydliadau a grwpiau ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a all gynnig cymorth a darparu cyfleoedd cymdeithasol.
Mae’r canllaw defnyddiol hwn yn cynnig syniadau ar sut mae delio ag unigrwydd, a manylion cyswllt sefydliadau sy’n gallu helpu. Cliciwch yma i weld y canllaw.