Grwpiau cymdeithasol llyfrgelloedd
Os ydych chi mewn rhigol darllen, yn awyddus i roi cynnig ar rywbeth newydd, neu eisiau ychydig o help i gychwyn darllen eto, beth am fynd i grŵp darllen cyfeillgar ac anffurfiol yn eich llyfrgell leol? Mae’r grwpiau bob amser yn cynnig croeso ac yn barod i ddechrau trafodaeth dros baned a bisged.
Llyfrgell Abercynffig
Grŵp darllen – dydd Llun cyntaf y mis am 11:30am.
Llyfrgell Pen-y-bont ar Ogwr
Grŵp darllen – dydd Mercher cyntaf y mis am 2pm, trydydd dydd Mercher y mis am 2pm, dydd Iau cyntaf y mis am 2pm.
Llyfrgell Maesteg
Grŵp darllen – dydd Mercher cyntaf y mis am 1:30pm, trydydd dydd Gwener y mis am 6pm.
Llyfrgell Porthcawl
Grŵp darllen – trydydd dydd Mercher y mis am 2pm.
Llyfrgell y Pîl
Grŵp darllen – dydd Iau olaf y mis am 2pm, trydydd dydd Iau y mis am 7pm.
Cyfle i Sgwrsio ag un o Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu (PSCO) – dydd Llun 2pm – 4pm. Cyfle i gael paned gydag un o swyddogion yr heddlu. Dewch am dro i holi eich cwestiwn mewn man anffurfiol a chyfeillgar.
Y Llynfi
Grŵp darllen – dydd Gwener cyntaf y mis am 10:30am.
Llyfrgell Pencoed
Grŵp darllen llyfrau ffeithiol – trydydd dydd Mawrth y mis am 4pm.
Cylch Athroniaeth – dydd Mawrth cyntaf y mis am 4pm – Grŵp syniadau a thrafod cyfeillgar a chefnogol i ysgogi’r meddwl.
Rhannu barddoniaeth – ail ddydd Llun y mis am 1pm – ymunwch â ni wrth i ni werthfawrogi a thrafod rhywfaint o gerddi bob mis.
Mae’r sesiynau uchod yn cael eu cynnal yn rheolaidd, fodd bynnag, efallai y bydd gweithgareddau ychwanegol, unwaith yn unig yn cael eu trefnu felly mae’n werth cadw golwg ar y wefan yn www.awen-libraries.com i gael y wybodaeth ddiweddaraf am eich cangen chi. Gallwch hefyd ddilyn gwasanaeth y llyfrgell ar Facebook @BridgendLibraries.