Fforymau a grwpiau
Gall fforwm neu grŵp trafod/gweithredu fod yn lle gwych i gwrdd â ffrindiau newydd, cael gwybod am weithgareddau, cymdeithasu a thrafod materion sy’n bwysig i chi fel person hŷn yn byw ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Dyma rywfaint o grwpiau lleol sy’n cyfarfod yn rheolaidd:
Fforwm SHOUT i bobl hŷn Pen-y-bont ar Ogwr
Mae fforwm SHOUT Pen-y-bont ar Ogwr yn gweithio gydag Age Cymru, llywodraeth leol, darparwyr iechyd a sefydliadau eraill i gymryd rhan mewn sesiynau ymgynghori ynghylch ardal Pen-y-bont ar Ogwr, ardal Bwrdd Iechyd Bae’r Gorllewin, a materion cenedlaethol os ydynt yn effeithio ar bobl dros 50 oed. Mae aelodau’r Bwrdd yn cynrychioli SHOUT a phobl dros 50 oed Pen-y-bont ar Ogwr ar nifer o weithgorau ar lefel leol a chenedlaethol ac mae’r wybodaeth yn cael ei bwydo’n ôl i’r aelodau mewn cyfarfodydd misol a drwy dudalen Facebook ‘SHOUT Bridgend County’ a thudalen Twitter @SHOUTBridgend.
Mae fforwm Shout Pen-y-bont ar Ogwr yn cyfarfod bob mis yn Neuadd y Bythol Wyrdd, Angel Street: http://www.shoutbridgend.org/joomla/index.php/about-us
Prifysgol y Drydedd Oes (U3A)
Mae Prifysgol y Drydedd Oes (U3A) yn sefydliad cenedlaethol yn seiliedig ar grwpiau lleol sy’n cynnig cyfleoedd i bobl sydd wedi ymddeol neu led-ymddeol i ddod ynghyd a datblygu eu diddordebau.
Mae U3A arferol yn cynnig cyfleoedd dysgu, gweithgareddau awyr agored, digwyddiadau cymdeithasol a theithiau, gan gynnwys unrhyw beth o bridge i arddio i deithiau i’r theatr.
Mae gan U3A grwpiau ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl, a gallwch chwilio am ragor o leoliadau drwy ymweld â’r wefan yma: www.u3a.org.uk
Porthcawl
01656 784211
www.u3asites.org.uk/porthcawl
Pen-y-bont ar Ogwr
01656 767529
www.u3asites.org.uk/bridgend
Cyfarfodydd Partneriaethau a Chymunedau Gyda’i Gilydd (PACT) gyda Heddlu De Cymru
Nod cyfarfodydd Partneriaethau a Chymunedau Gyda’i Gilydd (PACT) yw rhoi cyfle i chi dynnu sylw at y materion cymunedol sy’n cael effaith ar ansawdd eich bywyd a’ch helpu i benderfynu pa faterion y dylid rhoi blaenoriaeth i ymdrin â nhw. Nid cymhorthfa i drafod materion neu bryderon unigol ydynt. Mae tîm heddlu eich cymdogaeth yn cynnal cymorthfeydd PACT ar wahân. Mae’r cyfarfodydd hefyd yn rhoi cyfle i chi ddod i adnabod eich swyddog lleol.
Ewch i https://www.south-wales.police.uk/cy/cartref/ i gael manylion eich cyfarfodydd PACT lleol a’r materion sy’n effeithio ar eich cymdogaeth.


