Gofalwyr
Os ydych chi’n gofalu am briod, aelod o’r teulu neu ffrind sy’n fregus, yn sâl neu’n anabl efallai eich bod yn teimlo’n ynysig weithiau a bod angen rhywfaint o help arnoch. Gall sefydliadau lleol fel Canolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr neu Gofal Croesffyrdd drefnu digwyddiadau cymdeithasol i ofalwyr gyfarfod, rhannu profiadau a chefnogi ei gilydd.
Drwy gael gafael ar y rhwydweithiau cefnogi hyn, gall gofalwyr lleol gael cyngor a chefnogaeth gyda dewisiadau seibiant a materion eraill sy’n effeithio arnynt.
Canolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr
87 Stryd y Parc, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4AZ.
01656 658479
www.bridgendcarers.co.uk
Gofal Croesffyrdd
7 Victoria Avenue, Porthcawl, CF36 3HG
01656 784100
www.crossroadsbridgend.org.uk