Llywwyr Cymunedol BAVO
Gall cynllun Cymdeithion Cymunedol BAVO helpu pobl sydd dros 50 oed ac sy’n chwilio am rywun i ddod gyda nhw pan fyddant yn mynd allan neu gwmni i gael sgwrs a phaned o de gartref.
Mae cyfeillion gwirfoddol yn neilltuo rhywfaint o’u hamser i gynnig clust i wrando, helpu gyda gweithgareddau hamdden a helpu pobl i gymryd rhan unwaith eto mewn bywyd cymunedol yn ymarferol ac yn gymdeithasol.
Mae’r cynllun Cymdeithion Cymunedol yn wasanaeth am ddim, cyfrinachol, heb elfen o feirniadaeth i bobl ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae’r cynllun yn darparu gwasanaeth hyblyg i bobl hŷn sydd efallai’n teimlo’n ynysig neu’n unig, gan adeiladu a chyd-fynd â gwaith y gwasanaethau presennol. Gall y sawl sy’n defnyddio’r gwasanaeth cyfeillion ddewis pa mor aml yr hoffai gael cymorth a pha fath o gyfeillgarwch sydd ei angen arno.
Gall unrhyw un sy’n cefnogi unigolyn mewn angen gyda rhagor o gefnogaeth neu gyfeillgarwch gyfeirio pobl at y cynllun, neu mae modd cyfeirio eich hun ato.
Mae Llywiwyr Cymunedol BAVO yn cefnogi pobl ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a’u teuluoedd neu ofalwyr, i gael mynediad at wasanaethau, gwybodaeth a gweithgareddau ar lefel y gymuned a fydd yn eu helpu i gynnal bywydau annibynnol sy’n helpu i atal eu hamgylchiadau rhag dirywio i bwynt lle gallent fod angen gwasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol lefel uwch.
Eu nod yw:
Gwella lles trwy leihau ynysu cymdeithasol ac unigrwydd.
Rhoi gwybodaeth i bobl am wasanaethau a chymorth yn eu cymuned a mynediad atynt.
Helpu pobl i deimlo’n rhan o’u cymuned
Gellir derbyn cyflwyniad gan unrhyw un gan gynnwys gan yr unigolyn ei hun. Rydym yn ymdrin â cheisiadau gan sefydliadau neu unigolion sy’n ceisio cael cymorth gan sefydliadau cymunedol a gwirfoddol lleol;
Yn gweithio gydag unigolion i nodi eu hanghenion ac yna’n eu cefnogi i gael mynediad at wasanaethau neu weithgareddau cymunedol y maent yn teimlo sy’n iawn iddynt ac yn ceisio darparu’r wybodaeth hon ar y cyswllt cyntaf â’r unigolyn ‘gan wneud i bob cyswllt gyfrif’;
Yn helpu i nodi meysydd o angen heb ei ddiwallu neu fylchau yn y ddarpariaeth gwasanaethau, tystiolaeth a ddefnyddir wedyn i helpu i lywio cynllunio gwasanaethau’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector.
Am ragor o fanylion am y cynllun a sut mae cyfeirio rhywun, ewch i www.bavo.org.uk/over-50s/65, ffonio 01656 810400 neu e-bostio: communitynavigator@bavo.org.uk

