Dechrau busnes
Os ydych yn awyddus i ddechrau eich busnes eich hun, mae amrywiaeth o sefydliadau ledled Cymru yn darparu gwasanaethau i’ch helpu i ddechrau a datblygu eich syniadau.
Mae gan Busnes Cymru Wasanaeth Cymorth Ar-lein i Fusnesau (BOSS) lle gwelwch gyrsiau a sesiynau tiwtorial ar-lein ar ystod eang o bynciau y gallech ddod ar eu traws wrth sefydlu neu redeg eich busnes eich hun. Mae llinell gymorth Busnes Cymru ar gael hefyd, sy’n gallu rhoi cyngor a chymorth ar faterion fel cynllunio busnes a’r ffrydiau ariannu sydd ar gael.
Gall Busnes mewn ffocws roi cyngor mewn meysydd fel dod o hyd i adeiladau busnes, cael gafael ar gyllid, y gyfraith cyflogaeth ac AD a band eang cyflym iawn ar gyfer eich busnes.
Mae swyddfa leol Busnes mewn Ffocws Pen-y-bont ar Ogwr yng Nghanolfan Menter Ton-du a gallwch gysylltu â’r gwasanaeth ar 01656 724414 neu enquiries@businessinfocus.co.uk
Gall gwasanaethau busnes i drigolion Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr hefyd roi cyngor a chymorth yn lleol a rhedeg Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr, sy’n cynnal digwyddiadau rhwydweithio a hyfforddi lleol ac yn ffordd wych o wneud cysylltiadau busnes. Ewch i www.business.bridgend.gov.uk a bridgendbusinessforum.co.uk am ragor o wybodaeth.
Canllaw busnes oed cyfeillgar:
Mae canllaw wedi’i lunio i gynnig rhywfaint o awgrymiadau a chyngor syml ar sut gallwch wneud eich busnes yn oed cyfeillgar, a sut y gall hyn fod o fudd nid yn unig i bobl hŷn, ond i’ch holl gwsmeriaid, a helpu i wneud eich busnes yn fwy llwyddiannus. Cliciwch yma i weld y canllaw.