Gweithio ar ôl ymddeol
Dyma rywfaint o wybodaeth allweddol am weithio ar ôl oedran pensiwn y wladwriaeth:
- Nid ydych yn talu yswiriant gwladol os byddwch yn gweithio ar ôl oed ymddeol, ond efallai y byddwch yn dal i dalu treth.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn holi sut bydd parhau i weithio ar ôl oed ymddeol yn effeithio ar bensiwn eich gweithle.
- Rydych yn gallu gohirio hawlio pensiwn y wladwriaeth os ydych yn dymuno gwneud hynny.
- Mae rhai rhesymau pam efallai y bydd eich cyflogwr yn gosod oedran ymddeol gorfodol – rhesymau fel bod yn rhaid i chi gael gallu corfforol penodol i gyflawni eich swydd, neu fod y gyfraith wedi pennu terfyn oedran.
Am ragor o wybodaeth am weithio ar ôl oed ymddeol, ewch i: www.gov.uk/working-retirement-pension-age