Cyrsiau dysgu yn eich llyfrgell leol
Sesiynau galw heibio digidol
Gallwch wella eich sgiliau cyfrifiadurol gyda Gwasanaeth Llyfrgell Pen-y-bont ar Ogwr. Mae llyfrgelloedd lleol yn cynnig sesiynau galw heibio digidol am ddim, lle gallwch gael help gydag ystod o faterion TG – sut mae defnyddio Skype, sut mae siopa ar-lein yn ddiogel, sut mae defnyddio safleoedd cymharu prisiau, sut mae defnyddio ffôn clyfar neu sut mae manteisio i’r eithaf ar eich eDdarllenydd.
Cyrsiau TG learndirect
Mae Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn cynnal sesiynau galw heibio digidol ledled ardal Pen-y-bont ar Ogwr, mewn llyfrgelloedd yn bennaf. Beth am alw heibio un o’r sesiynau galw heibio anffurfiol i gael help, cyngor a chefnogaeth am ddim i ddefnyddio eich cyfrifiadur, tabled, gliniadur neu unrhyw dechnoleg arall. P’un ai a ydych chi’n ddechreuwyr llwyr neu fod gennych ymholiad penodol, bydd eu harbenigwyr TG yn gallu eich helpu. Gallwch hefyd gofrestru ar gyfer cyrsiau TG learndirect am ddim sy’n rhoi hyblygrwydd i chi astudio a dysgu sgiliau newydd ar eich cyflymder eich hun – boed hynny mewn sesiwn galw heibio neu gartref os oes gennych fynediad i’r rhyngrwyd.
Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Dysgu Oedolion yn y Gymuned.
Neu cysylltwch â:
Andrew Evans, Rheolwr E-ddysgu
Andrew.Evans@bridgend.gov.uk
07789 371810
Karen Johns, Tiwtor E-ddysgu
Karen.Johns@bridgend.gov.uk
07789 371811
John Taylor, Tiwtor Cynhwysiant a Sgiliau Digidol
john.taylor@bridgend.gov.uk
07792322611
Help gyda Saesneg a Mathemateg yn Ystafell Ton Pentre, Canolfan Bywyd y Pîl
Os oes angen help arnoch i wella eich sgiliau Saesneg neu Fathemateg, mae ystafell Ton Pentre yng Nghanolfan Bywyd y Pîl yn cynnig cyfle i chi ddysgu sgiliau newydd a gweithio at gyflawni cymhwyster. Gallwch gael gafael ar ystod o gyrsiau learndirect addas i ddechreuwyr am ddim mewn sawl pwnc, megis Mathemateg a Saesneg sylfaenol; i gyd mewn amgylchedd cyfeillgar ac anffurfiol.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Lynn Cabble, Gweithiwr Datblygu Sgiliau Sylfaenol
Lynn.Cabble@bridgend.gov.uk
01656 815170