Gwasanaethau llyfrgell
Mae gwasanaethau llyfrgell Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, sy’n cael eu rhedeg gan Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen a Halo Leisure, yn lleoedd hygyrch a chroesawgar a chanddynt staff cyfeillgar, wedi’u hyfforddi. Mae llyfrgelloedd yn lleoedd cynnes yn y gymuned sy’n cynnig cyfleoedd dysgu gydol oes drwy gyrsiau, gweithdai a llyfrau, creu cysylltiad â’r gymuned drwy weithgareddau grŵp a gwybodaeth am hanes lleol a theuluol, ac yn gyfle i gwrdd â phobl.
Mae canghennau yn Abercynffig, Betws, Pen-y-bont ar Ogwr, Maesteg, Cwm Ogwr, Pencoed, Pontycymer, Porthcawl, Y Pîl a Sarn lle gall pobl fenthyg llyfrau, CDs a DVDs a llyfrau sain, yn ogystal â defnyddio cyfrifiaduron a chael mynediad at grwpiau darllen lleol. I bobl nad oes modd iddynt gyrraedd eu llyfrgell leol, mae llyfrgell deithiol a gwasanaeth ar gyfer pobl sy’n gaeth i’w cartrefi ar gael hefyd.
Llyfrgell Hanes Lleol a Theuluol yn Nhŷ’r Ardd, Pen-y-bont ar Ogwr
Ymchwiliwch i’ch coeden deulu neu dyrchu i’r gorffennol yn ein Llyfrgell Hanes Lleol a Theuluol, lle gallwch gael gafael ar ystod o ddogfennau:
- Adnoddau cyfeirioAdnoddau cyfeirio
- Mynegai GRO
- Cofnodion plwyf
- Mapiau’r Arolwg Ordnans
- Papurau newydd
- Lluniau lleol
- Cyfnodolion
Gall staff hefyd gynnig tiwtorial am ddim am awr i ddangos sut mae defnyddio’r deunydd sydd ar gael yn y llyfrgell, gan gyfeirio’n benodol at y wefan Ancestry. I drefnu sesiwn, ffoniwch 01656 754810.