Creadigol gartref: Cryfach Gyda’n Gilydd
Yn dilyn ein hadnoddau Gweithgar Gartref a thrwy weithio gyda’n partneriaid yn Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, mae’n bleser cael rhannu ein hadnodd Creadigol Gartref gyda chi.
Mae ein thema Cryfach Gyda’n Gilydd yn cydnabod nad oes amser wedi bod mewn cyfnod diweddar pan mae pobl a chymunedau wedi bod angen ei gilydd gymaint. Nod y llyfr gwaith yma yw cefnogi pobl sy’n treulio mwy o amser gartref i wneud rhywbeth creadigol, rhywbeth newydd efallai, fel rhan o’u trefn o ddydd i ddydd.
https://www.youtube.com/watch?v=efhJfxERCi0&feature=emb_title
Dim ond syniadau cychwynnol yw’r rhain gennym ni ac efallai bod gennych chi eich syniadau eich hun … efallai y byddwch chi eisiau rhannu’r rheiny gyda ni hyd yn oed.
- Bydd rhai pethau y bydd pawb yn gallu cymryd rhan ynddyn nhw gobeithio – rhannu stori, atgof, llun sy’n bwysig neu bethau eraill sy’n golygu llawer i chi neu eich cymuned
- Hefyd bydd rhai pethau eraill i bobl sydd wedi arfer mwy â defnyddio cyfrifiaduron, technoleg neu ffonau symudol i gysylltu. Gobeithio er mai darpariaeth fechan yw hon y byddwch yn dod o hyd i rywbeth sy’n helpu yn ystod y dyddiau a’r wythnosau sydd i ddod.
Am fwy of wybodaeth, ewch i www.strongertogetherbridgend.co.uk