Hygyrchedd
Disabled Go
Mae Disabled Go yn gwmni sy’n cynnal arolygon o leoliadau ledled y DU i ddarparu gwybodaeth ar eu gwefan am siopau, tafarndai, tai bwyta, sinemâu, theatrau, gorsafoedd trên, gwestai, prifysgolion, ysbytai hygyrch a mwy.
Er mwyn gweld pa mor hygyrch yw lleoliadau yn rhanbarth Bae’r Gorllewin (Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd ac Abertawe) ewch i wefan Disabled Go yma.
Allweddi RADAR
Gall pobl sydd ag anableddau ddefnyddio toiledau penodol i bobl anabl gydag allwedd RADAR, y gellir ei chael gan y cyngor drwy ddangos prawf eich bod yn anabl. Codir ffi o £3.50 am yr allwedd. I chwilio am doiledau hygyrch yn eich ardal chi cliciwch yma.