Cefnogaeth gan Heddlu De Cymru
Mae Heddlu De Cymru yn cefnogi cynlluniau lleol fel Gwarchod Cymdogaeth, Cadwa’n Ddiogel Cymru a Dim Galwyr Heb Wahoddiad er mwyn hyrwyddo diogelwch cymunedol.
Mae Heddlu De Cymru hefyd yn rhan o Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr, sy’n cynnwys amrywiol sefydliadau i wella ansawdd bywyd mewn cymunedau lleol a chreu amgylchedd mwy diogel i’r rheini sy’n byw, yn gweithio ac yn ymweld â’r fwrdeistref sirol.
Cadwa’n Ddiogel Cymru
Mae Heddlu De Cymru wedi llunio cerdyn Cadwa’n Ddiogel Cymru ar gyfer y rheini sydd ag angen cyfathrebu arbennig er mwyn gwneud iddynt deimlo’n fwy diogel pan fyddant o gwmpas y lle.
Os bydd angen cymorth ar ddeiliad y cerdyn, p’un ai a yw ar goll, wedi dioddef trosedd neu mewn unrhyw sefyllfa sy’n golygu bod angen rhagor o gymorth arno, gall ddefnyddio’r cerdyn i gael gafael ar y cymorth hwn. Mae gwybodaeth sylfaenol am yr unigolyn ar y cerdyn, megis sut mae’n cyfathrebu, unrhyw faterion iechyd ac unrhyw gysylltiadau mewn argyfwng megis aelodau o’r teulu neu ofalwyr.
Bydd y cerdyn yn helpu’r rheini sy’n darparu cymorth, megis yr Heddlu, i gael gafael ar gymorth i’r sawl sy’n defnyddio’r cerdyn ac i ddeall sut mae gwneud iddynt deimlo’n fwy diogel.
Am ragor o wybodaeth ewch i: http://www.south-wales.police.uk/en/contact-us/keep-safe-cymru-card/
Dim galwyr heb wahoddiad
Mae Dim Galwyr Heb Wahoddiad yn gynllun i wneud i bobl deimlo’n fwy diogel os bydd masnachwyr heb wahoddiad sy’n ceisio gwerthu nwyddau neu wasanaethau yn galw heibio eu cartref.
Gellir rhoi sticer ar eich drws ffrynt neu ffenestr yn nodi’n glir nad oes croeso i werthwyr ar garreg y drws dieisiau. Bydd y sticer yn eu hatal rhag tarfu arnoch ac yn rhoi hyder i chi eu gwrthod wrth y drws.