Gwybodaeth am drafnidiaeth
Mae gan Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr rwydwaith o gysylltiadau trafnidiaeth gan gynnwys trên, bws a chludiant cymunedol.
Teithio ar fws
First Cymru sy’n rhedeg y rhan fwyaf o wasanaethau bysiau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Gellir cael manylion y llwybrau hyn drwy glicio’r dolenni isod:
Llwybr 62 Pen-y-bont ar Ogwr: Pen-y-bont ar Ogwr i Bencoed drwy Fracla
Llwybrau 63 a 63B Pen-y-bont ar Ogwr: Pen-y-bont ar Ogwr i Borthcawl drwy Abercynffig
Llwybrau 65 a 66 Pen-y-bont ar Ogwr: Pen-y-bont ar Ogwr i Donysguboriau drwy Heol y Cyw a Phencoed
Llwybrau 67 a 67a Pen-y-bont ar Ogwr: Pen-y-bont ar Ogwr i Sarn drwy Ben-y-fai
Llwybrau 68 a 69 Pen-y-bont ar Ogwr: Pen-y-bont ar Ogwr i Gefn Glas drwy Fryntirion
Llwybrau 72 a 73 Pen-y-bont ar Ogwr: Pen-y-bont ar Ogwr i Flaengarw drwy Langeinwyr a Phontycymer
Llwybrau 76 a 77 Pen-y-bont ar Ogwr: Pen-y-bont ar Ogwr i’r Betws drwy Sarn ac Ynysawdre
Llwybrau 79 Pen-y-bont ar Ogwr: Blaencaerau a Chaerau i Turberville drwy Faesteg
Am ragor o wybodaeth am wasanaethau bysiau lleol neu i gael help i drefnu taith gan ddefnyddio cludiant cyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru neu ffonio 0871 200 22 33.
Teithio ar drên
Mae Trenau Arriva yn darparu gwasanaeth trenau lleol o’r gorsafoedd trên canlynol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr:
Maesteg ∙ Maesteg (Heol Ewenni) ∙ Garth ∙ Ton-du ∙ Sarn ∙ Wildmill ∙ Y Pîl ∙ Pen-y-bont ar Ogwr ∙ Pencoed.
Gallwch weld amserlen a rhwydwaith Trenau Arriva Cymru yma (PDF)
Am ragor o wybodaeth am deithio ar drenau ewch i www.arrivatrainswales.co.uk neu ffonio 03333 211202.
Cardiau Bws am Ddim
Gall pobl dros 60 oed gael cerdyn teithio ar fws am ddim drwy gysylltu â’r cyngor lleol. Gallwch gael rhagor o wybodaeth yma.
Cludiant Cymunedol
Mae Cludiant Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr yn darparu gwasanaeth cludiant hygyrch i unigolion sydd â gofynion teithio a symudedd penodol nad oes modd i gynllun car gwirfoddol na chludiant cyhoeddus ei ddarparu. Mae’r elusen nid er elw yn darparu cludiant fforddiadwy i drigolion a grwpiau cymunedol lleol.
Am ragor o wybodaeth ewch i www.bridgendcommunitytransport.co.uk neu ffonio 01656 669665.