Rhaglenni Cymunedau yn Gyntaf
Mae Cymunedau yn Gyntaf Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig cyrsiau am ddim mewn ystod o feysydd ar gyfer pobl sy’n byw mewn ardaloedd cod post Cymunedau yn Gyntaf. Mae cymorth ar gael i bobl sy’n ddi-waith neu’n gweithio llai nag 16 awr yr wythnos fel rhan o Brosiect Cyflogaeth a Sgiliau Pen-y-bont ar Ogwr (BESP), sy’n darparu hyfforddiant i bobl ddod yn barod i weithio a chael gwaith cynaliadwy.
Dyma rai o’r meysydd hyfforddiant:
- Magu hyder;
- Sgiliau cyfathrebu;
- Gwasanaeth i Gwsmeriaid;
- Creu neu ddiweddaru eich CV;
- Ysgrifennu llythyr eglurhaol a cheisiadau am swyddi effeithiol;
- Sgiliau cyfweliad a pharatoi;
- Camau cyntaf mewn TG;
- Codi a chario;
- Diogelwch Bwyd – Lefel 2.
Mae tiwtoriaid hefyd ar gael i weithio gyda phobl 1 i 1 er mwyn helpu i wella sgiliau Saesneg a Mathemateg.
Am ragor o wybodaeth am BESP ffoniwch 01656 642605 neu e-bostio communitiesfirst@bridgend.gov.uk
Mae Cymunedau yn Gyntaf hefyd yn cynnal digwyddiadau a gweithgareddau rheolaidd, yn ogystal â chyrsiau hyfforddi. I weld rhestr lawn o’r sesiynau sydd ar y gweill, ewch i adran Ar y gweill Cymunedau yn Gyntaf Pen-y-bont ar Ogwr yma. Mae’r rhaglen hon yn cael ei hadolygu gan Lywodraeth Cymru.