Dysgwyr Cymraeg
P’un ai a ydych yn dewis dysgu Cymraeg am y tro cyntaf, neu ddim ond eisiau ymarfer beth ydych yn ei wybod yn barod, mae llawer o gyfleoedd i ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Cyrsiau
Mae Prifysgol De Cymru yn cynnal amrywiaeth o gyrsiau ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, o lefel dechreuwyr i ganolradd, uwch a hyd yn oed Cymraeg i’r teulu.
I chwilio am gwrs addas i chi cliciwch yma.
Grwpiau llyfrgell
Llyfrgell Abercynffig – dydd Mawrth cyntaf y mis am 11:30am
Os ydych yn magu hyder yn darllen Cymraeg, dewch draw i lyfrgell Abercynffig i ddarllen a chael trafodaethau yn Gymraeg. Mae’n gyfeillgar, yn anffurfiol ac yn hwyliog…ac mae paned a bisged ar gael bob amser i’ch croesawu!
Llyfrgell Porthcawl – Bore Coffi i Ddysgwyr Cymraeg bob dydd Sadwrn am 11am
Bore coffi i’r rheini sy’n awyddus i sgwrsio a datblygu eu geirfa Gymraeg mewn amgylchedd anffurfiol.
Llyfrgell Hanes Lleol a Theuluol yn Nhŷ’r Ardd, Pen-y-bont ar Ogwr
Grŵp Trafod yn Gymraeg – bob yn ail ddydd Iau am 11.30am (yn ystod y tymor yn unig)
Ar gyfer y rheini sy’n awyddus i wella eu Cymraeg a datblygu eu geirfa a’u sgiliau trafod.
Dolenni defnyddiol
Gallwch hefyd ddod o hyd i adnoddau defnyddiol ar-lein i’ch helpu i ddysgu Cymraeg.
Welsh Plus
Mae www.youtube.com/welshplus yn cynnwys fideos sy’n ymdrin ag ynganiad, cyngor defnyddiol a chryno ar ramadeg, a chlipiau fideo i ddysgwyr
Welsh With Us
Mae www.youtube.com/welshwithus yn crynhoi pwyntiau gramadegol.
Mae cyrsiau a chlipiau fideo ar gael ar-lein hefyd ar dudalennau Big Welsh Challenge y BBC, y gallwch eu gweld yma: www.bbc.co.uk/wales/learnwelsh/bigwelshchallenge