Cyrsiau dysgu yn eich llyfrgell leol
Sesiynau galw heibio digidol
Gallwch wella eich sgiliau cyfrifiadurol gyda Gwasanaeth Llyfrgell Pen-y-bont ar Ogwr. Mae llyfrgelloedd lleol yn cynnig sesiynau galw heibio digidol am ddim, lle gallwch gael help gydag ystod o faterion TG – sut mae defnyddio Skype, sut mae siopa ar-lein yn ddiogel, sut mae defnyddio safleoedd cymharu prisiau, sut mae defnyddio ffôn clyfar neu sut mae manteisio i’r eithaf ar eich eDdarllenydd. Chwiliwch isod am eich sesiwn galw heibio agosaf:
Llyfrgell Betws: Dydd Llun 10am – 12pm
Llyfrgell Pen-y-bont ar Ogwr: Dydd Iau 10am – 12pm
Llyfrgell Maesteg: Dydd Mawrth 10am – 12pm
Llyfrgell Pencoed: Dydd Mawrth 2pm – 5pm
Llyfrgell Porthcawl: Dydd Llun 10.30am – 12pm
Llyfrgell y Pîl: Dydd Llun 2pm – 4pm
Llyfrgell Sarn: Dydd Gwener 10am – 12pm
Cyrsiau TG learndirect
Mae Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn cynnal sesiynau galw heibio digidol ledled ardal Pen-y-bont ar Ogwr, mewn llyfrgelloedd yn bennaf. Beth am alw heibio un o’r sesiynau galw heibio anffurfiol i gael help, cyngor a chefnogaeth am ddim i ddefnyddio eich cyfrifiadur, tabled, gliniadur neu unrhyw dechnoleg arall. P’un ai a ydych chi’n ddechreuwyr llwyr neu fod gennych ymholiad penodol, bydd eu harbenigwyr TG yn gallu eich helpu. Gallwch hefyd gofrestru ar gyfer cyrsiau TG learndirect am ddim sy’n rhoi hyblygrwydd i chi astudio a dysgu sgiliau newydd ar eich cyflymder eich hun – boed hynny mewn sesiwn galw heibio neu gartref os oes gennych fynediad i’r rhyngrwyd.
Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Dysgu Oedolion yn y Gymuned.
Neu cysylltwch â:
Andrew Evans, Rheolwr E-ddysgu
Andrew.Evans@bridgend.gov.uk
07789 371810
Karen Johns, Tiwtor E-ddysgu
Karen.Johns@bridgend.gov.uk
07789 371811
John Taylor, Tiwtor Cynhwysiant a Sgiliau Digidol
john.taylor@bridgend.gov.uk
07792322611
Help gyda Saesneg a Mathemateg yn Ystafell Ton Pentre, Canolfan Bywyd y Pîl
Os oes angen help arnoch i wella eich sgiliau Saesneg neu Fathemateg, mae ystafell Ton Pentre yng Nghanolfan Bywyd y Pîl yn cynnig cyfle i chi ddysgu sgiliau newydd a gweithio at gyflawni cymhwyster. Gallwch gael gafael ar ystod o gyrsiau learndirect addas i ddechreuwyr am ddim mewn sawl pwnc, megis Mathemateg a Saesneg sylfaenol; i gyd mewn amgylchedd cyfeillgar ac anffurfiol.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Lynn Cabble, Gweithiwr Datblygu Sgiliau Sylfaenol
Lynn.Cabble@bridgend.gov.uk
01656 815170