Pontydd i Waith
Yn lleol, gall y rhaglen Pontydd i Waith helpu’r rheini sy’n ddi-waith yn yr hirdymor, dros 25 oed ac yn byw mewn ardaloedd nad ydynt yn rhai Cymunedau yn Gyntaf. Mae cyrsiau galwedigaethol am ddim ar gael mewn amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys hylendid bwyd, cymorth cyntaf, iechyd a diogelwch a sgiliau mae modd eu trosglwyddo fel llythrennedd a rhifedd, meithrin hyder, TG a chymwysterau ffurfiol. Caiff y cyrsiau eu cyflwyno mewn lleoliadau ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
I siarad ag aelod o brosiect Pontydd i Waith 2 ffoniwch 01656 815317.