Uned dydd feddygol
(a elwid gynt yn Uned dydd Pendre), Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr
Rydym yn darparu gwasanaeth asesu, trin ac adsefydlu i oedolion sydd wedi syrthio a/neu dorri esgyrn, yn ogystal â phobl hŷn fregus sy’n byw yn y gymuned, mewn lleoliad uned dydd.
Efallai eich bod wedi cael eich cyfeirio am nifer o resymau, sy’n cynnwys y canlynol:
- Asesiad o’ch codymau
- Problemau symud
- Efallai eich bod wedi gorfod mynd i’r ysbyty yn ddiweddar a bod angen monitro pellach arnoch
- Efallai bod angen adolygu neu addasu eich meddyginiaeth
- Efallai bod angen monitro meddygol arnoch gan gynnwys triniaethau a/neu archwiliad
Mae ein gwasanaeth codymau yn tyfu ac rydym ar hyn o bryd yn darparu gwasanaeth adsefydlu sy’n seiliedig ar dystiolaeth a strategaethau atal ar gyfer y rheini sydd wedi syrthio neu mewn perygl o syrthio.
Rydym yn cynnal dosbarthiadau ymarfer corff sy’n gweithio ar unigolion, cryfder, stamina a chydbwysedd yn y gobaith y bydd hyn yn gwella’r sefyllfa ac yn atal rhagor o godymau.
Mae’r Uned Dydd Feddygol yn cynnal nifer o glinigau/gwasanaethau, sy’n cynnwys y canlynol:
- Clinigau hematoleg
- Clinigau anhwylder symudedd (megis cryndod/clefyd Parkinson)
- Clinigau asesu codymau
- Clinig botox ar gyfer sbastigedd strôc
- Ôl-driniaeth amlddisgyblaethol ar gyfer cleifion sy’n cael gastrostomi endosgopig drwy’r croen (PEG)
- Dosbarthiadau addysg cleifion ar gyfer Codymau a Chlefyd Parkinson
Pwy all gyfeirio at y gwasanaeth?
Codymau a Symudedd
Ar gyfer ein hasesiadau eiddilwch, codymau a symudedd, gall y sawl sy’n cyfeirio fod yn unrhyw weithiwr proffesiynol ym maes iechyd, drwy ddefnyddio’r ffurflen gyfeirio briodol.
Mae monitro meddygol yn cynnwys triniaethau a/neu adolygiad/titradiad Archwiliad a Meddyginiaeth
O ran ein dulliau monitro meddygol, ein triniaethau, ein hadolygiad o feddyginiaeth neu’n trefn archwilio, dim ond gweithiwr meddygol ym maes gofal eilaidd sy’n cael cyfeirio achosion.
Mae’n rhaid i’r sawl sy’n cyfeirio fod yn gyfrifol am ofal y claf tra mae yn ei adran.
Does dim modd i feddygon teulu gyfeirio’n uniongyrchol at y gwasanaeth hwn.
Meini prawf cyfeirio/meini prawf eithrio
Mae angen i’r cleifion allu rhoi meddyginiaeth iddyn nhw eu hunain a dod â’r feddyginiaeth gyda nhw.
Rhaid i’r cleifion allu rhoi caniatâd.
Rhaid i gleifion allu deall pam eu bod yn yr ysbyty am y diwrnod.
Pwy fydd yn eu gweld?
Mae’r tîm yn cynnwys nyrsys, meddygon, ffisiotherapyddion, a therapyddion galwedigaethol, gan gyfeirio achosion yn ôl yr angen at ddeietegwyr, therapyddion lleferydd ac iaith, gwasanaethau cymunedol, ymarferwyr cyffredinol a gwasanaethau arbenigol eraill.
Rydym yn gweithio’n agos gyda’r gwasanaethau cymdeithasol a’r sector gwirfoddol.
Beth all pobl ddisgwyl ei gael gan y gwasanaeth?
Ein gwaith ni yw helpu pobl sydd â salwch, anaf neu anabledd ac sydd angen y canlynol:
- Asesiad, triniaeth a gwasanaeth adsefydlu unigol
A/NEU
- Triniaeth archwiliadol, triniaethau cefnogol
Manylion cyswllt
Uned Dydd Feddygol (Uned Dydd Pendre gynt)
Parth J
Ysbyty Tywysoges Cymru
Pen-y-bont ar Ogwr
CF31 1RQ
Rhif ffôn: 01656 75 2746/2080
Ffacs: 01656 754003