Tîm Clinigol Acíwt – ACT
(rhan o Dîm Adnoddau Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr)
Mae’r Tîm Clinigol Acíwt (ACT) yn wasanaeth ymyrryd acíwt i atal derbyn i ysbyty neu i gefnogi/hwyluso rhyddhau’n gynnar o ysbyty. Mae gennym ddau brif lwybr gofal:
Llwybr Cyflym Arall: Mae’r llwybr hwn yn cynnig asesiad, ymyriadau a chefnogaeth frys i gleifion mewn argyfwng. Gall gofalwyr brys gydag offer ar gyfer y cartref ac asesiad amlddisgyblaethol ymateb o fewn 4 neu 24 awr, gan ddibynnu ar y brys.
Hefyd mae’r llwybr hwn yn cynnig gwasanaeth asesu codymau yn y cartref i gleifion sy’n rhy fregus neu am unrhyw reswm arall sy’n methu mynychu clinig asesu yn yr ysbyty. Gallant ddisgwyl asesiad amlddisgyblaethol yn y cartref gyda mynediad i’n gwasanaethau eraill, os oes angen.
Cyfeirir y cleifion ymlaen at ein chwaer wasanaethau yn Bridgestart, Bridgeway, Reablement neu ofal y trydydd sector (drwy gyfrwng gweithiwr cymdeithasol ein tîm ni), yn ôl anghenion y claf.
Llwybr Meddygol Cyflym: Hefyd rydyn ni’n cynnig llwybr meddygol i reoli cleifion sydd â salwch meddygol acíwt yn y cartref a darparu amrywiaeth o ymyriadau, a gynigir mewn ysbytai yn unig fel rheol. Gallwn weithio gyda chleifion bregus sy’n methu mynychu clinigau. Rydyn ni’n darparu gwrthfiotigau, hylifau a meddyginiaethau eraill yn y wythïen. Gallwn reoli Methiant y Galon gartref a sawl agwedd arall ar ofal arbenigol. Er nad yw ein ffocws ar godymau – efallai y bydd claf wedi cael codwm oherwydd salwch acíwt a gall yr ACT gefnogi meddygon teulu sy’n tynnu sylw at gleifion sâl sydd angen cefnogaeth a monitro meddygol ac yr ydym eisiau eu cadw allan o ysbytai.
Hefyd gall y cleifion ar y llwybr hwn wneud defnydd o’n tîm amlddisgyblaethol, y gwasanaeth gofal brys a gwasanaethau eraill os oes angen.
Pwy all gyfeirio at y gwasanaeth?
Llwybr cyflym arall: Gall unrhyw un gyfeirio (claf, teulu, gofalwyr, meddygon teulu, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill, ffrindiau pryderus). Gallant ffonio Pwynt Mynediad Cyffredin y CRT neu anfon atgyfeiriad ar ffacs i’r CRT. Wedyn bydd y Pwynt Mynediad Cyffredin yn dosbarthu’r atgyfeiriadau a’r galwadau i’r tîm mwyaf priodol gyda’r CRT (a all fod yn ACT)
Llwybr cyflym arall: Dim ond gweithwyr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig all gyfeirio. Gall gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ffonio llinell HOT yr ACT ar 07773256619 a siarad ar unwaith gydag Ymarferydd Clinigol er mwyn cynnal trafodaeth clinigydd i glinigydd ar addasrwydd claf ar gyfer y gwasanaeth.
Gweler y llwybrau atodedig am fanylion llawn:
Meini prawf/Meini prawf cyfeiriol
Llwybr cyflym arall: Unrhyw glaf sy’n wynebu argyfwng iechyd a/neu ofal cymdeithasol a all arwain at dderbyn i’r ysbyty os na roddir unrhyw ymyriadau ar waith. Cleifion sydd angen asesiad codymau sy’n methu mynychu clinigau mewn ysbytai.
Llwybr Meddygol Cyflym:
- Cleifion â salwch acíwt sydd angen monitro manwl yn y cartref er mwyn sicrhau bod y triniaethau a roddir yn llwyddiannus.
- Cleifion Methiant y Galon sy’n cael eu rhyddhau o ysbyty ac sydd angen ffwrosemid IV dilynol neu barhaus.
- Cleifion Methiant y Galon sydd, drwy atgyfeiriad gan Nyrs Arbenigol ar Fethiant y Galon neu Feddyg Teulu, angen ffwrosemid IV gartref er mwyn osgoi gorfod mynd i’r ysbyty.
- Cleifion sâl sydd angen triniaethau ymyrrol eraill yn y cartref (cyffuriau a hylifau IV).
- Cleifion bregus iawn sydd angen gwaith meddygol.
- Cleifion sydd angen adolygiad meddygol ar ôl eu rhyddhau.
Meini prawf eithrio (ar gyfer y ddau lwybr):
- Cleifion 17 oed neu iau
- Poen acíwt yn y frest
- Byr eich gwynt – acíwt
- Amheuaeth o dorasgwrn
- Gwaedlif mawr
- Strôc newydd/symptomau positif FAST
Pwy fydd pobl yn ei weld?
Mae ein Tîm ACT yn cynnwys Ffisegwyr Ymgynghorol, Uwch Ymarferwyr Clinigol/ Ymarferwyr Clinigol, Nyrsys, Ffisiotherapyddion, Therapydd Galwedigaethol a gweithiwr cymdeithasol.
Hefyd oddi mewn i’r CRT ehangach mae gennym ni ddeietegwyr, Therapyddion iaith a lleferydd, technegwyr fferyllol arbenigol, tîm synhwyraidd, gwasanaethau teleofal a staff gofal sydd ar gael i ni.
Beth all pobl ei ddisgwyl gan y gwasanaeth?
Mae ACT yn darparu Asesiad Geriatrig Cynhwysfawr, asesiad o Godymau yn y cartref ac asesiad meddygol ac mae ganddo alluoedd clinigol helaeth ar gyfer tîm yn y gymuned.
Pwy mae’r gwasanaeth yn cyfeirio ymlaen i?
Byddwn yn cyfeirio ymlaen at dimau eraill CRT, Gofal a Thrwsio, Gofal y Trydydd Sector, Gwasanaethau’r Trydydd Sector (gan gynnwys mudiadau elusennol), gofal sylfaenol, gofal eilaidd, gwasanaethau trydyddol, nyrsio ardal a thimau gwasanaethau cymdeithasol/rhwydwaith.