Prentisiaethau i bobl o bob oed
Mae Gyrfa Cymru yn cynnig cefnogaeth a gwybodaeth i gael mynediad at brentisiaethau i bobl o bob oed. Gall y rhaglen Porth Sgiliau i Oedolion roi cymorth i chi gyda’ch CV a chyngor a hyfforddiant ar dechnegau cyfweliad, yn ogystal â’ch helpu chi i gael sgiliau a chymwysterau gwell er mwyn hyrwyddo eich gyrfa.
Nid oes uchafswm oedran i bobl sydd eisiau cael mynediad at y rhaglen i feithrin sgiliau, dod o hyd i gyrsiau hyfforddi, a chael gafael ar gyllid a chefnogaeth os ydych wedi cael eich diswyddo.
Am ragor o fanylion am y rhaglen Porth Sgiliau, cliciwch yma, neu i gysylltu â Gyrfa Cymru ffoniwch 0800 028 4844.