Gwirfoddoli
Mae llawer o fuddiannau i wirfoddoli ar gyfer achos teilwng, gyda llawer o bobl yn sylwi eu bod yn gwneud ffrindiau newydd, yn dysgu sgiliau newydd ac yn magu hyder, yn ogystal â chael profiad gwerthfawr – i gyd gan roi rhywbeth yn ôl i’r gymuned a gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl eraill!
P’un ai a ydych chi’n awyddus i wirfoddoli yn ystod eich amser rhydd, angen cymorth i sefydlu eich grŵp gwirfoddoli eich hun, neu angen rhagor o gymorth i recriwtio gwirfoddolwyr ar gyfer grŵp sydd eisoes yn bodoli, gall Cymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr (BAVO) eich helpu.
Mae gan BAVO ganolfan i wirfoddolwyr yn 2 Heol y Frenhines, Pen-y-bont ar Ogwr, canol tref Pen-y-bont ar Ogwr, lle gall unrhyw un sy’n ystyried gwirfoddoli alw heibio am gyngor a gwybodaeth.
I gysylltu â BAVO, ffoniwch 01656 810400 neu e-bostio bavo@bavo.org.uk. I chwilio am gyfleoedd i wirfoddoli yn eich ardal chi, ewch ar wefan Gwirfoddoli Cymru yma: www.volunteering-wales.net