Bod yn ddiogel gartref
Fe welwch isod bethau y gallwch eu gwneud i gadw eich cartref yn ddiogel rhag peryglon baglu a pheryglon eraill i’ch iechyd:
- Osgoi gadael eitemau ar y grisiau neu ar lwybrau y tu mewn neu’r tu allan i’ch cartref.
- Cadw arwynebau lloriau yn eich cartref mewn cyflwr da, a sicrhau hefyd nad yw eich rygiau a’ch matiau yn codi yn yr ymylon.
- Amlygu ymylon allanol grisiau gyda phaent gwyn gwrthlithro er mwyn eu gwneud yn haws eu gweld.
- Sicrhau bod eich cartref wedi’i oleuo’n dda a chael lamp wrth ymyl eich gwely.
- Peidio â phlygu i godi llythyrau oddi ar y llawr drwy osod cawell blwch llythyrau.
- Peidio â chael ceblau sy’n llusgo a llanast yn eich cartref.
- Defnyddio grisiau cadarn yn hytrach na sefyll ar gadair.
- Gwisgo esgidiau sy’n ffitio’n iawn.
- Defnyddio tegell heb gordyn i ferwi dŵr.
- Defnyddio tegell llenwi pig neu degell jwg
- Gwneud yn siŵr nad oes perygl i chi lithro yn yr ystafell ymolchi cyn i chi fynd am fath/cawod.
- Troi handlenni sosbenni oddi wrth flaen y popty wrth ddefnyddio’r hob.
- Gwneud yn siŵr nad yw poteli dŵr poeth wedi gwisgo cyn eu defnyddio.
- Trefnu i’ch cyfarpar nwy gael ei wasanaethu bob blwyddyn gan beiriannydd gwresogi sydd wedi cofrestru â Corgi.
- Glanhau unrhyw simneiau a ffliwiau unwaith y flwyddyn.
- Cael arbenigwr i wneud yn siŵr bod eich dyfeisiau llosgi tanwydd yn ddiogel yn rheolaidd. Gallai fflam nwy sydd fel arfer yn llosgi’n las ond bellach yn troi’n oren olygu bod carbon monocsid yn cronni – cymerwch gamau ar unwaith.