Cydlynwyr Cymuned Lleol – Stori Alma
Roedd iechyd corfforol Alma yn dirywio ac roedd hi’n mynd yn fwy a mwy ynysig, a oedd yn gwneud iddi deimlo’n isel. Roedd wedi disgyn droeon ac wedi cael ei chyfeirio i’r ysbyty dydd yn ogystal â’r ganolfan ddydd leol i bobl hŷn.
Roedd Alma yn ddynes gymdeithasol a oedd yn teimlo nad oedd y ganolfan ddydd yn addas iddi hi yn ystod y cyfnod hwn, er gwaethaf ei hiechyd gwael. Cyfeiriodd meddyg teulu Alma at Gydlynydd Cymuned Lleol yng Nghwm Llynfi.
Aeth y Cydlynydd draw i gwrdd ag Alma i drafod beth oedd yn bwysig iddi hi, beth oedd ei diddordebau a sut byddai hi’n disgrifio bywyd da dan ei hamgylchiadau presennol. Roedd Alma yn teimlo’n unig ac yn euog am ddibynnu gymaint ar ei chwaer.
Cyfeiriodd y Cydlynydd Alma at y gwasanaeth cyfeillion lleol a chafodd Alma help gan wirfoddolwr i fynd allan ychydig o weithiau yr wythnos. Fe wnaeth y Cydlynydd hefyd helpu Alma i gysylltu â pherchennog ei thŷ i osod rhywfaint o reiliau llaw ychwanegol er mwyn lleihau’r risg iddi gwympo yn ei chartref. Daeth y Cydlynydd i adnabod Alma ac fe’i cyflwynodd i ddwy ddynes arall a oedd mewn sefyllfa debyg a daeth hi’n ffrindiau gyda nhw.
Ar hyn o bryd mae Alma yn mynd i grŵp Lles drwy greadigrwydd ac mae wedi gwneud llawer o ffrindiau newydd. Mae hi’n disgrifio ei bywyd fel un ‘prysur’ a daeth y grŵp lles ar ddydd Mawrth yn achubiaeth iddi gan gynnig cwmnïaeth a dysgu crefftau newydd. Cafodd Alma ei chyflwyno hefyd i’r grŵp Strictly Cinema ac roedd yn ei fwynhau’n fawr. Y cynllun nesaf yw mynd i glwb gyda’r nos i henoed lleol gyda rhai o’r aelodau mae Alma wedi cwrdd â nhw yn y grŵp Lles. Mae Alma yn siarad yma am ei phrofiad cynnar o gwrdd â Laura, ei Chydlynydd Cymuned Lleol.
http://www.lcc.community/2016/06/17/759/