Cymdeithion Cymunedol BAVO
Gall cynllun Cymdeithion Cymunedol BAVO helpu pobl sydd dros 50 oed ac sy’n chwilio am rywun i ddod gyda nhw pan fyddant yn mynd allan neu gwmni i gael sgwrs a phaned o de gartref.
Mae cyfeillion gwirfoddol yn neilltuo rhywfaint o’u hamser i gynnig clust i wrando, helpu gyda gweithgareddau hamdden a helpu pobl i gymryd rhan unwaith eto mewn bywyd cymunedol yn ymarferol ac yn gymdeithasol.
Mae’r cynllun Cymdeithion Cymunedol yn wasanaeth am ddim, cyfrinachol, heb elfen o feirniadaeth i bobl ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae’r cynllun yn darparu gwasanaeth hyblyg i bobl hŷn sydd efallai’n teimlo’n ynysig neu’n unig, gan adeiladu a chyd-fynd â gwaith y gwasanaethau presennol. Gall y sawl sy’n defnyddio’r gwasanaeth cyfeillion ddewis pa mor aml yr hoffai gael cymorth a pha fath o gyfeillgarwch sydd ei angen arno.
Gall unrhyw un sy’n cefnogi unigolyn mewn angen gyda rhagor o gefnogaeth neu gyfeillgarwch gyfeirio pobl at y cynllun, neu mae modd cyfeirio eich hun ato.
Am ragor o fanylion am y cynllun a sut mae cyfeirio rhywun, ewch i www.bavo.org.uk/over-50s/65, ffonio 01656 810400 neu e-bostio: bavo@bavo.org.uk