Grwpiau cymdeithasol llyfrgelloedd

Os ydych chi mewn rhigol darllen, yn awyddus i roi cynnig ar rywbeth newydd, neu eisiau ychydig o help i gychwyn darllen eto, beth am fynd i grŵp darllen cyfeillgar ac anffurfiol yn eich llyfrgell leol? Mae’r grwpiau bob amser yn cynnig croeso ac yn barod i ddechrau trafodaeth dros baned a bisged.

Llyfrgell Abercynffig
Grŵp darllen – dydd Llun cyntaf y mis am 11:30am.

Llyfrgell Pen-y-bont ar Ogwr
Grŵp darllen – dydd Mercher cyntaf y mis am 2pm, trydydd dydd Mercher y mis am 2pm, dydd Iau cyntaf y mis am 2pm.

Llyfrgell Maesteg
Grŵp darllen – dydd Mercher cyntaf y mis am 1:30pm, trydydd dydd Gwener y mis am 6pm.

Llyfrgell Porthcawl
Grŵp darllen – trydydd dydd Mercher y mis am 2pm.

Llyfrgell y Pîl
Grŵp darllen – dydd Iau olaf y mis am 2pm, trydydd dydd Iau y mis am 7pm.
Cyfle i Sgwrsio ag un o Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu (PSCO) – dydd Llun 2pm – 4pm. Cyfle i gael paned gydag un o swyddogion yr heddlu. Dewch am dro i holi eich cwestiwn mewn man anffurfiol a chyfeillgar.

Y Llynfi
Grŵp darllen – dydd Gwener cyntaf y mis am 10:30am.

Llyfrgell Pencoed
Grŵp darllen llyfrau ffeithiol – trydydd dydd Mawrth y mis am 4pm.
Cylch Athroniaeth – dydd Mawrth cyntaf y mis am 4pm – Grŵp syniadau a thrafod cyfeillgar a chefnogol i ysgogi’r meddwl.

Rhannu barddoniaeth – ail ddydd Llun y mis am 1pm – ymunwch â ni wrth i ni werthfawrogi a thrafod rhywfaint o gerddi bob mis.

Mae’r sesiynau uchod yn cael eu cynnal yn rheolaidd, fodd bynnag, efallai y bydd gweithgareddau ychwanegol, unwaith yn unig yn cael eu trefnu felly mae’n werth cadw golwg ar y wefan yn www.awen-libraries.com i gael y wybodaeth ddiweddaraf am eich cangen chi. Gallwch hefyd ddilyn gwasanaeth y llyfrgell ar Facebook @BridgendLibraries.

Yr erthygl ddiweddaraf

Mae’n ddiwrnod rhyngwladol Pobl

30 Sep, 2019

Darllen Mae’n ddiwrnod rhyngwladol Pobl >>

  • Sefydliadau cefnogi lleol a chenedlaethol

    Sefydliad Rhif ffôn Gwefan
    Age Cymru 08000 223 444 Age Cymru
    Ageing Well in Wales 02920 445030 Ageing Well in Wales
    Alzheimers Society 0300 222 1122 Alzheimers Society
    Age connects morgannwg 01443 490650 Age connects morgannwg
    Older people’s commisioner for Wales 08442 640670 Older people's commisioner for Wales
    Welsh Local Government Association 029 2046 8600 Welsh Local Government Association
    Bridgend County Care and Repair 01656 646755 Bridgend County Care and Repair
    Bridges into Work 2 01656 815317
    Communities First Bridgend 01656 642605 Communities First Bridgend
    Careers Wales 0800 028 4844 Careers Wales
    Adult Community Learning 01656 642729
    BAVO 01656 810400 BAVO
    Local Community Coordinators 07815 579082 Local Community Coordinators
  • Dilynwch ni