OlympAge

1 Feb, 2017

Mae Tîm Chwaraeon, Chwarae a Lles Egnïol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi gweithio gyda sefydliadau partner dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf i gyflwyno ‘Hyfforddiant Hwyrach mewn Bywyd’ i staff ac arweinwyr gweithgareddau er mwyn cyflwyno rhaglen o weithgareddau ‘OlympAge’ arloesol mewn lleoliadau gofal lleol.

Mae’r rhaglen OlympAge yn cynnwys mynd i ganolfannau dydd a chartrefi preswyl a chynnal gemau wedi’u haddasu ar gyfer pobl hŷn, gyda’r nod o’u cael i symud a bod yn fwy egnïol. Mae’r rhaglen hefyd yn ffordd o wella lles meddyliol drwy roi ymdeimlad o bwrpas a chyfleoedd i’r bobl sy’n cymryd rhan i gymdeithasu ag eraill. Mae’r tîm wedi bod yn helpu’r cyfranogwyr a’r staff yn y lleoliadau gofal hyn i gynnwys ymarfer corff fel rhan reolaidd o’r rhaglen. Mae hyn yn cynnwys chwarae gemau wedi’u haddasu megis bocia, cyrlio oes newydd, pêl-fasged, taflu at darged a phêl fownsio.

Ar ôl cyflwyno’r rhaglen a gweld faint o wahaniaeth roedd y gweithgareddau’n ei wneud i fywydau pobl hŷn, roedd y tîm eisiau cynnal digwyddiad a fyddai’n dod â chyfranogwyr o bob cwr o’r fwrdeistref sirol ynghyd a threfnu rhywbeth iddynt edrych ymlaen ato ac i ymarfer ar ei gyfer. Penderfynwyd y byddai seremoni fawreddog Gemau OlympAge yn cael ei chynnal i ddathlu’r gwaith sy’n cael ei wneud i gyfoethogi bywydau pobl hŷn sy’n byw ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Cynhaliwyd Gemau OlympAge ddydd Iau 8 Rhagfyr 2016 yng Nghanolfan Bywyd Bethlehem, Cefn Cribwr. Bu’r digwyddiad yn llwyddiant ysgubol, gyda dros 200 o bobl wedi ymgynnull i wylio 14 o dimau o bobl hŷn a phobl ag anableddau yn mwynhau cystadlu yn y digwyddiadau a oedd wedi’u hysbrydoli gan gemau Olympaidd Rio. Roedd Rebecca Evans AC, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn bresennol, ynghyd â Dirprwy Faer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Jeannie Wyatt Williams – Cydlynydd Atgyfeirio Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer Corfforol yng Nghymru, cynrychiolwyr o sefydliadau partner a chynghorwyr lleol.

Roedd awyrgylch positif y digwyddiad yn galonogol, gyda phobl o bob oed yn dod at ei gilydd i gyflawni’r un nod, sef sicrhau bod Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn lle gwych i bobl dyfu’n hŷn. Roedd dros 50 o fyfyrwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol o Goleg Penybont wrth law ar y diwrnod, yn helpu pobl i gymryd rhan a symud o gwmpas i chwarae’r gemau. Llwyddodd y diwrnod i bontio sawl cenhedlaeth a hyrwyddo’r neges y dylai rhyngweithio rhwng cenedlaethau fod yn norm yn ein cymunedau.

Cafodd pawb a fu’n cymryd rhan fedal am eu hymdrechion ar y diwrnod, a chafodd y timau buddugol ym mhob categori dlws Gemau OlympAge 2016 arbennig.

Y nod parhaus yw parhau i weithio gyda darparwyr gofal er mwyn sicrhau nad yw’r momentwm yn cael ei golli a bod yr offer a’r hyfforddiant sydd wedi’u darparu yn cael eu defnyddio’n rheolaidd. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gobeithio y bydd yn parhau i allu cael cefnogaeth gan sefydliadau fel Llywodraeth Cymru a Chwaraeon Cymru er mwyn sicrhau bod Gemau OlympAge yn ddigwyddiad blynyddol, ac i annog awdurdodau lleol eraill yng Nghymru i gyflwyno rhaglenni tebyg drwy rannu arferion gorau.

Yr erthygl ddiweddaraf

Mae’n ddiwrnod rhyngwladol Pobl

30 Sep, 2019

Darllen Mae’n ddiwrnod rhyngwladol Pobl >>

  • Sefydliadau cefnogi lleol a chenedlaethol

    Sefydliad Rhif ffôn Gwefan
    Age Cymru 08000 223 444 Age Cymru
    Ageing Well in Wales 02920 445030 Ageing Well in Wales
    Alzheimers Society 0300 222 1122 Alzheimers Society
    Age connects morgannwg 01443 490650 Age connects morgannwg
    Older people’s commisioner for Wales 08442 640670 Older people's commisioner for Wales
    Welsh Local Government Association 029 2046 8600 Welsh Local Government Association
    Bridgend County Care and Repair 01656 646755 Bridgend County Care and Repair
    Bridges into Work 2 01656 815317
    Communities First Bridgend 01656 642605 Communities First Bridgend
    Careers Wales 0800 028 4844 Careers Wales
    Adult Community Learning 01656 642729
    BAVO 01656 810400 BAVO
    Local Community Coordinators 07815 579082 Local Community Coordinators
  • Dilynwch ni