Ymddeoliad hamdden Roy
Drwy ddefnyddio’r llyfrgell a’r cyfleusterau hamdden lleol i ddysgu sgiliau newydd a bod yn egnïol, mae Roy Thomas, un o drigolion Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael blas ar fywyd ar ôl ymddeol.
Ar ôl ymddeol, penderfynodd Roy ei fod yn mynd i groesawu’r oes ddigidol ac achubodd ar y cyfle i fynd i sesiynau digidol learndirect yn llyfrgell Sarn. Drwy’r cyrsiau, mae Roy wedi dysgu sgiliau i ddefnyddio rhaglenni fel PowerPoint, Excel a Publisher ac mae wedi magu hyder i gyfathrebu ar-lein.
Y peth nesaf ar restr o ‘bethau i’w gwneud’ Roy ar ôl ymddeol oedd dod yn fwy heini, a dechreuodd ymweld â’r ganolfan hamdden Halo leol yn rheolaidd, sef Canolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr. Yno roedd yn defnyddio’r gampfa a’r pwll nofio ac yn mynd i ddosbarthiadau fel Beicio Grŵp (Troelli) a Pilates.
Dair blynedd ar ôl ymddeol, cwblhaodd Roy Hanner Marathon Caerdydd, gan godi arian i Ward y Bwthyn Newydd yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Ar ben hynny, mae Roy hefyd wedi cymryd rhan mewn Spinathon yng Nghanolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr, gan godi mwy o arian i Ward y Bwthyn Newydd, sy’n helpu pobl sydd â chanser a’u teuluoedd.
Drwy gymryd rhan mewn amrywiol weithgareddau yng Nghanolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr, a elwid gynt yn Ganolfan Hamdden Pen-y-bont ar Ogwr, mae Roy wedi dod yn fwy heini, wedi cyflawni uchelgeisiau gydol oes ac wedi cwrdd â ffrindiau newydd. Mae’r syniad y dylai pobl ymddeol er mwyn arafu a gwneud llai yn sicr wedi cael ei droi ar ei ben yn achos Roy – yn lle hynny mae’n ei ddefnyddio fel cyfle i wneud yr holl bethau nad oedd yn cael amser i’w gwneud pan oedd yn gweithio fel peiriannydd am dros 40 o flynyddoedd!
Gall ymuno â chanolfan hamdden leol fod yn ffordd wych o gwrdd â phobl, creu grwpiau cymdeithasol newydd a’ch helpu i gadw’n egnïol. Efallai fod rhai pobl sydd wedi bod yn segur am gyfnod hir yn teimlo’n bryderus am ymweld â chanolfan hamdden sy’n llawn pobl ‘heini’, ond fel y gwelodd Roy, roedd yn hawdd ymuno â phobl eraill ac mae rhywbeth addas i bobl o bob gallu yng ngwasanaethau hamdden Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.