Amddiffyn eich hun rhag y ffliw
Mae’r ffliw yn achosi salwch difrifol a channoedd o farwolaethau bob gaeaf yng Nghymru – os ydych chi’n dioddef o salwch cronig penodol, yn 65 oed neu hŷn, neu’n feichiog, rydych chi mewn perygl.
Mae’r ffliw yn achosi salwch difrifol a channoedd o farwolaethau bob gaeaf yng Nghymru – os ydych chi’n dioddef o salwch cronig penodol, yn 65 oed neu hŷn, neu’n feichiog, rydych chi mewn perygl.
Y brechiad ffliw yw’r ffordd orau o amddiffyn eich hun rhag dal neu ledaenu ffliw a chaiff ei argymell i bobl sydd fwyaf mewn perygl o wynebu cymhlethdodau difrifol os byddant yn dal y feirws.
Holwch eich meddyg teulu am gael brechlyn ffliw am ddim os yw un o’r canlynol yn berthnasol i chi:
- Rydych chi’n 65 oed neu hŷn
- Rydych chi’n feichiog
- Rydych chi’n ofalwr
- Rydych chi’n byw mewn cartref preswyl neu gartref nyrsio
- Mae gennych gyflwr meddygol hirdymor
Am ragor o wybodaeth am imiwneiddiadau ewch i: www.nhsdirect.wales.nhs.uk/immunisations