OlympAge
Mae Tîm Chwaraeon, Chwarae a Lles Egnïol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi gweithio gyda sefydliadau partner dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf i gyflwyno ‘Hyfforddiant Hwyrach mewn Bywyd’ i staff ac arweinwyr gweithgareddau er mwyn cyflwyno rhaglen o weithgareddau ‘OlympAge’ arloesol mewn lleoliadau gofal lleol.
Mae’r rhaglen OlympAge yn cynnwys mynd i ganolfannau dydd a chartrefi preswyl a chynnal gemau wedi’u haddasu ar gyfer pobl hŷn, gyda’r nod o’u cael i symud a bod yn fwy egnïol. Mae’r rhaglen hefyd yn ffordd o wella lles meddyliol drwy roi ymdeimlad o bwrpas a chyfleoedd i’r bobl sy’n cymryd rhan i gymdeithasu ag eraill. Mae’r tîm wedi bod yn helpu’r cyfranogwyr a’r staff yn y lleoliadau gofal hyn i gynnwys ymarfer corff fel rhan reolaidd o’r rhaglen. Mae hyn yn cynnwys chwarae gemau wedi’u haddasu megis bocia, cyrlio oes newydd, pêl-fasged, taflu at darged a phêl fownsio.
Ar ôl cyflwyno’r rhaglen a gweld faint o wahaniaeth roedd y gweithgareddau’n ei wneud i fywydau pobl hŷn, roedd y tîm eisiau cynnal digwyddiad a fyddai’n dod â chyfranogwyr o bob cwr o’r fwrdeistref sirol ynghyd a threfnu rhywbeth iddynt edrych ymlaen ato ac i ymarfer ar ei gyfer. Penderfynwyd y byddai seremoni fawreddog Gemau OlympAge yn cael ei chynnal i ddathlu’r gwaith sy’n cael ei wneud i gyfoethogi bywydau pobl hŷn sy’n byw ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Cynhaliwyd Gemau OlympAge ddydd Iau 8 Rhagfyr 2016 yng Nghanolfan Bywyd Bethlehem, Cefn Cribwr. Bu’r digwyddiad yn llwyddiant ysgubol, gyda dros 200 o bobl wedi ymgynnull i wylio 14 o dimau o bobl hŷn a phobl ag anableddau yn mwynhau cystadlu yn y digwyddiadau a oedd wedi’u hysbrydoli gan gemau Olympaidd Rio. Roedd Rebecca Evans AC, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn bresennol, ynghyd â Dirprwy Faer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Jeannie Wyatt Williams – Cydlynydd Atgyfeirio Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer Corfforol yng Nghymru, cynrychiolwyr o sefydliadau partner a chynghorwyr lleol.
Roedd awyrgylch positif y digwyddiad yn galonogol, gyda phobl o bob oed yn dod at ei gilydd i gyflawni’r un nod, sef sicrhau bod Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn lle gwych i bobl dyfu’n hŷn. Roedd dros 50 o fyfyrwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol o Goleg Penybont wrth law ar y diwrnod, yn helpu pobl i gymryd rhan a symud o gwmpas i chwarae’r gemau. Llwyddodd y diwrnod i bontio sawl cenhedlaeth a hyrwyddo’r neges y dylai rhyngweithio rhwng cenedlaethau fod yn norm yn ein cymunedau.
Cafodd pawb a fu’n cymryd rhan fedal am eu hymdrechion ar y diwrnod, a chafodd y timau buddugol ym mhob categori dlws Gemau OlympAge 2016 arbennig.
Y nod parhaus yw parhau i weithio gyda darparwyr gofal er mwyn sicrhau nad yw’r momentwm yn cael ei golli a bod yr offer a’r hyfforddiant sydd wedi’u darparu yn cael eu defnyddio’n rheolaidd. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gobeithio y bydd yn parhau i allu cael cefnogaeth gan sefydliadau fel Llywodraeth Cymru a Chwaraeon Cymru er mwyn sicrhau bod Gemau OlympAge yn ddigwyddiad blynyddol, ac i annog awdurdodau lleol eraill yng Nghymru i gyflwyno rhaglenni tebyg drwy rannu arferion gorau.