Gwybodaeth am drafnidiaeth

Mae gan Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr rwydwaith o gysylltiadau trafnidiaeth gan gynnwys trên, bws a chludiant cymunedol.

Teithio ar fws

First Cymru sy’n rhedeg y rhan fwyaf o wasanaethau bysiau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Gellir cael manylion y llwybrau hyn drwy glicio’r dolenni isod:

Llwybr 62 Pen-y-bont ar Ogwr: Pen-y-bont ar Ogwr i Bencoed drwy Fracla

Llwybrau 63 a 63B Pen-y-bont ar Ogwr: Pen-y-bont ar Ogwr i Borthcawl drwy Abercynffig

Llwybr 64 Pen-y-bont ar Ogwr: Pen-y-bont ar Ogwr i Donysguboriau drwy Fracla, Pencoed, Brynnau, Llanharan, Llanhari a Phont-y-clun

Llwybrau 65 a 66 Pen-y-bont ar Ogwr: Pen-y-bont ar Ogwr i Donysguboriau drwy Heol y Cyw a Phencoed

Llwybrau 67 a 67a Pen-y-bont ar Ogwr: Pen-y-bont ar Ogwr i Sarn drwy Ben-y-fai

Llwybrau 68 a 69 Pen-y-bont ar Ogwr: Pen-y-bont ar Ogwr i Gefn Glas drwy Fryntirion

Llwybrau 70 a 71 Pen-y-bont ar Ogwr: Pen-y-bont ar Ogwr i’r Cymer drwy Abercynffig, Llangynwyd, Maesteg a Chaerau

Llwybrau 72 a 73 Pen-y-bont ar Ogwr: Pen-y-bont ar Ogwr i Flaengarw drwy Langeinwyr a Phontycymer

Llwybrau 74 a 75 Pen-y-bont ar Ogwr: Pen-y-bont ar Ogwr i Nant-y-moel drwy Sarn, Bryncethin, Melin Ifan Ddu a Chwm Ogwr

Llwybrau 76 a 77 Pen-y-bont ar Ogwr: Pen-y-bont ar Ogwr i’r Betws drwy Sarn ac Ynysawdre

Llwybrau 79 Pen-y-bont ar Ogwr: Blaencaerau a Chaerau i Turberville drwy Faesteg

Am ragor o wybodaeth am wasanaethau bysiau lleol neu i gael help i drefnu taith gan ddefnyddio cludiant cyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru neu ffonio 0871 200 22 33.

Teithio ar drên

Mae Trenau Arriva yn darparu gwasanaeth trenau lleol o’r gorsafoedd trên canlynol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr:

Maesteg ∙ Maesteg (Heol Ewenni) ∙ Garth ∙ Ton-du ∙ Sarn ∙ Wildmill ∙ Y Pîl ∙ Pen-y-bont ar Ogwr ∙ Pencoed.

Gallwch weld amserlen a rhwydwaith Trenau Arriva Cymru yma (PDF)

Am ragor o wybodaeth am deithio ar drenau ewch i www.arrivatrainswales.co.uk neu ffonio 03333 211202.

Cardiau Bws am Ddim

Gall pobl dros 60 oed gael cerdyn teithio ar fws am ddim drwy gysylltu â’r cyngor lleol. Gallwch gael rhagor o wybodaeth yma.

Cludiant Cymunedol

Mae Cludiant Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr yn darparu gwasanaeth cludiant hygyrch i unigolion sydd â gofynion teithio a symudedd penodol nad oes modd i gynllun car gwirfoddol na chludiant cyhoeddus ei ddarparu. Mae’r elusen nid er elw yn darparu cludiant fforddiadwy i drigolion a grwpiau cymunedol lleol.

Am ragor o wybodaeth ewch i www.bridgendcommunitytransport.co.uk neu ffonio 01656 669665.

Yr erthygl ddiweddaraf

Mae’n ddiwrnod rhyngwladol Pobl

30 Sep, 2019

Darllen Mae’n ddiwrnod rhyngwladol Pobl >>

  • Sefydliadau cefnogi lleol a chenedlaethol

    Sefydliad Rhif ffôn Gwefan
    Age Cymru 08000 223 444 Age Cymru
    Ageing Well in Wales 02920 445030 Ageing Well in Wales
    Alzheimers Society 0300 222 1122 Alzheimers Society
    Age connects morgannwg 01443 490650 Age connects morgannwg
    Older people’s commisioner for Wales 08442 640670 Older people's commisioner for Wales
    Welsh Local Government Association 029 2046 8600 Welsh Local Government Association
    Bridgend County Care and Repair 01656 646755 Bridgend County Care and Repair
    Bridges into Work 2 01656 815317
    Communities First Bridgend 01656 642605 Communities First Bridgend
    Careers Wales 0800 028 4844 Careers Wales
    Adult Community Learning 01656 642729
    BAVO 01656 810400 BAVO
    Local Community Coordinators 07815 579082 Local Community Coordinators
  • Dilynwch ni