Lles drwy Wres Age Cymru
Mae Age Cymru, yr elusen genedlaethol i bobl hŷn yng Nghymru, yn darparu gwasanaeth gwybodaeth a chyngor sy’n cynnig cefnogaeth gydag ystod eang o faterion gan gynnwys budd-daliadau, iechyd, arian, tai a gofal.
Ar hyn o bryd mae’r sefydliad yn cynnal ei ymgyrch Lles drwy Wres, gan ddarparu adnoddau defnyddiol fel y daflen o awgrymiadau defnyddiol isod ar wresogi eich cartref a chadw’n gynnes. Er enghraifft, mae rhai pobl yn meddwl bod gadael ffenestr ystafell wely ar agor drwy’r nos yn dda i’r iechyd, ond mewn gwirionedd drwy adael eich ffenestr ar agor drwy’r nos rydych yn fwy tebygol o anadlu aer oer sy’n gostwng tymheredd y corff ac yn cynyddu’r risg o heintiau ar y frest, trawiad ar y galon a strociau. I weld y daflen lawn o awgrymiadau defnyddiol, cliciwch yma.
Gallwch weld taflen wybodaeth ddefnyddiol arall am sut mae sicrhau bod eich cartref yn defnyddio ynni’n effeithlon a sut mae cael cymorth ariannol i’ch helpu i dalu biliau tanwydd, gosod mesurau effeithlonrwydd ynni, neu osod system wresogi newydd yn lle un ddiffygiol neu wedi torri yma.
Yn ogystal â’r ymgyrch Lles drwy Wres, mae gan Age Cymru amrywiaeth o adnoddau i bobl hŷn, fel awgrymiadau a chyngor ar leihau peryglon o amgylch y cartref a lleihau’r risg o syrthio, y gallwch eu gweld yma.
Mae llinell gyngor Age Cymru ar gael am ddim hefyd, sef 08000 223 444, sydd ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener o 9am i 5pm i ateb ymholiadau.